Cyngor Tref
LLANDEILO
FAWR
Town Council

English

 







Tref farchnad fechan, ffyniannus yn Sir Gaerfyrddin yw Llandeilo, a leolir ar ymylon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae o fewn cyrraedd cyfleus i'r mynyddoedd a'r arfordir, llinell rheilffordd Calon Cymru a thraffordd yr M4.

Mae tua 2000 o drigolion yn byw yn y gymuned a darperir cyfleusterau da ar eu cyfer yn cynnwys siopau bach cyfeillgar yn ogystal â gwasanaethau gwych gan y ganolfan iechyd, ysgolion cynradd ac uwchradd, llyfrgell, eglwysi, capeli, gwasanaeth tân, ambiwlans a gorsafoedd yr heddlu ac, wrth gwrs y Cyngor Tref.

HENGWRT

Yn un o adeiladau hynaf Llandeilo, mae gan Hengwrt stori amrywiol a diddorol. O farchnad agored i lys ynadon, gorsaf heddlu i swyddfeydd - bu'r adeilad yn ganolog i fywyd yn y dref ers dros 200 mlynedd. Bellach wedi ei drawsnewid yn ganolfan gymunedol gan Fenter Dinefwr, mae Hengwrt ar ddechrau pennod newydd yn ei hanes.

Trosglwyddwyd yr adeilad ar les hirdymor i Fenter Dinefwr yn 2018, a dechreuodd y gwaith adnewyddu sylweddol gwerth dros £1.5 miliwn yn 2019. Fe'i ailenwyd yn Hengwrt, sy'n adlewyrchu prif ddefnydd yr adeilad dros y ddwy ganrif ddiwethaf - o'r Llysoedd Chwarter, i'r Sesiwn Fach a Llys yr Ynadon.

Mae Hengwrt bellach yn gartref i'r Fenter, ac yn cynnwys canolfan dreftadaeth ac ymwelwyr, swyddfeydd, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi, gofod cymunedol, siop nwyddau Cymreig, a phencadlys Cyngor Tref Llandeilo Fawr. Mae'r Cyngor Tref yn parhau i gynnal cyfarfodydd yn yr adeilad a dylid cyfeirio unrhyw ohebiaeth at - Clerc y Dref, Hengwrt, Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, SA19 6AE.

 

Pethau sy'n rhaid i chi eu gwneud pan yn ymweld â Llandeilo

 

  • Cerdded trwy Warchodfa Natur Coed y Castell i Gastell hynafol Dinefwr, lle eistedda ar glogwyn gyda golygfeydd godidog ar hyd dyffryn yr afon Tywi.

  • Mynd i siopa am ddillad, rhoddion a nwyddau o ansawdd yn ein siopau ac orielau bach cain ac unigryw – dim o'ch siopau stryd fawr yma!

  • Ymweld â Pharc Dinefwr a Thy'r Drenewydd, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda'i wartheg gwyn, llyn a pharc ceirw.

  • Yfed coffi yn y bore neu de prynhawn mewn caffi - mae digon o rai dymunol yn y dre.

  • Chwilio am fargen ymysg yr henebion a phethau i'w casglu yn y Farchnad Henebion neu yn yr arwerthiannau misol.

  • Bwyta bwydydd arbenigol lleol megis cig oen Cymru neu eog yn un o'r tafarndai neu fwytai, mae digon ohonynt.

  • Mynd i fandstand Parc Penlan i weld y golygfeydd hardd dros doeon y dref.

  • Cerdded i lawr i Bont y Brenin, pont droed siglo dros yr afon, a mynd am dro hamddenol ar hyd y dolydd lle cewch gyfle i weld y crychydd, hwyaid, gwenoliaid neu hyd yn oed glas y dorlan neu ddyfrgwn os ydych yn ddigon lwcus.

  • Mwynhau'r dewis da o gerddoriaeth fyw yn y tafarndai a lleoliadau lleol, yn arbennig felly adeg yr wyl.

  • Neu mynd am dro o amgylch y dre, gan brofi'r awyrgylch hamddenol a mwynhau'r adeiladau Sioraidd hardd.

  • Ewch am daith ar linell hardd rheilffordd Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i Amwythig gyda phob trên yn galw yng Ngorsaf Llandeilo.

 

 

 

Hawlfraint lluniau a thestun © Cyngor Tref Llandeilo Fawr - Cedwir pob hawl